Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am nodi’r mân bwynt hwn yn y testun Saesneg. Derbyniwn y pwynt sydd wedi ei godi a byddwn yn gwneud y cywiriad a nodir yn y tabl a atodir i’r ymateb hwn cyn i’r Rheoliadau gael eu gwneud.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                     Nodir y pwynt, â diolch. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn glir o ddarllen paragraffau 2(1) a 5(1) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau mai hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig yw’r hysbysiad terfynol. Mae Llywodraeth Cymru felly o’r farn, mewn cysylltiad â pharagraff 13 o Atodlen 2, ei bod yn glir o’r testun ‘hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig’ fod hyn yn ymwneud â’r hysbysiad terfynol. Dilynwyd y trywydd hwn mewn OSau eraill sydd wedi eu gwneud o dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008. Nid yw Llywodraeth Cymru o’r farn bod diwygiad yn ofynnol oherwydd, o dan yr amgylchiadau, mae’r ystyr gyfreithiol yn glir.

 

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn gwneud y Rheoliadau

 

 

CYWIRIADAU I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

 

 

CYWIRIADAU I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD Y RHEOLIADAU

 

Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025

 

The Food (Promotion and Presentation) (Wales) Regulations 2025

 

 

 

 

Dd/G

 

Yn rheoliad 15, newidir enw’r ddeddfwriaeth o ‘the Regulatory Sanctions and Enforcement Act 2008’ i ‘the Regulatory Enforcement and Sanctions Act 2008’.